Yr Arglwydd Harries
Mae un o ffigurau amlyca’ Eglwys Lloegr wedi galw ar i Gymru ddangos y ffordd tros gael esgobion benywaidd.

Yn ôl yr Arglwydd Harries o Benregarth, fe ddylai’r Eglwys yng Nghymru fwrw ati ar unwaith i geisio urddo menywod i swyddi ucha’r eglwys.

Ac yntau wedi cynnal arolwg o’r Eglwys yng Nghymru, fe ddywedodd yr Arglwydd Harries – cyn esgob Rhydychen – fod penderfyniad Eglwys Lloegr i wrthod y syniad yn siom fawr.

Er bod yr Eglwys yng Nghymru wedi gwrthod y syniad mewn pleidlais agos iawn bedair blynedd yn ôl, fe ddylen nhw roi cynnig arni eto, meddai wrth Radio Wales.

“Dw i’n gobeithio’n fawr y bydd yr Eglwys yng Nghymru’n symud ymlaen gyda hyn a dangos arweiniad i Eglwys Lloegr. “Fe fyddai’n wers glir iddyn nhw pe bai’r Eglwys yng Nghymru’n bwrw ymlaen.”