Fe fydd y Llys Goruchaf yn penderfynu heddiw ar y ddeddf gynta’ lawn a gafodd ei phasio gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Ar ôl gwrandawiad deuddydd y mis diwetha’, fe fydd y barnwyr yn penderfynu rhwng barn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain.
Fe fydd colli’r ddadl yn cael ei ystyried yn embaras i’r naill neu’r llall ac mae’n brawf pwysig ar y trefniant datganoli.
Roedd y Cynulliad wedi pasio Bil yn dweud y dylai awdurdodau lleol Cymru gael mwy o hawl i wneud is-ddeddfau mewn rhai meysydd.
Yn ôl Llywodraeth Prydain, doedd ganddyn nhw ddim hawl i wneud hynny, gan y byddai’n mynd â grym oddi ar weinidogion San Steffan i wrthod neu gymeradwyo is-ddeddfau.