Leighton Andrews
Mae’r gymdeithas sy’n cynrychioli cynghorau lleol Cymru wedi gwrthod syniad y Llywodraeth o fynd â chyfrifoldeb am addysg o’u dwylo nhw.

Mae’n bwysig bod penderfyniadau am addysg yn cael eu gwneud yn lleol gan bobol sydd wedi eu hethol yn lleol, meddai llefarydd ar eu rhan.

Roedd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru’n ymateb i ddatganiad gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ddoe – yn cyhoeddi adolygiad sy’n awgrymu’n gry’ fod angen cyrff rhanbarthol i reoli addysg yng Nghymru, gyda’r rheiny’n ateb yn uniongyrchol i’r Llywodraeth yng Nghaerdydd.

“Fe ddylai penderfyniadau am addysg yng Nghymru gael eu gwneud gan gynghorwyr sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd ac sy’n cynrychioli’r cymunedau lle mae’r ysgolion,” meddai Huw David, un o lefarwyr addysg y Gymdeithas wrth Radio Wales.

“Dydyn ni ddim eisiau i benderfyniad am ysgolion ym Mhort Talbot gael ei wneud yng Nghaerdydd. Dydyn ni ddim eisiau gweld penderfyniadau am ddalgylchoedd ysgolion yng Nghonwy’n cael eu gwneud yng Nghaerdydd.”

Cyfaddef bai, meddai’r gwrthbleidiau

Yn y cyfamser, mae’r gwrthbleidiau’n dweud fod datganiad y Gweinidog Addysg yn gyfaddefiad o fethiant y Llywodraeth.

“Mae Gweinidogion Addysg Llafur wedi bod yn rhedeg system addysg Cymru am 15 mlynedd a rhaid iddyn nhw dderbyn cyfrifoldeb am gwymp mewn safonau,” meddai llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns.

“Dw i’n casáu’r gêm sy’n rhoi bai ar bawb arall ond Llywodraeth Cymru.  O gofio pa mor ddrwg y mae polisïau a pherfformiad Llafur wedi bod, rhaid i ni amau ai rhagor o ganoli yw’r ateb gorau.”

‘Angen ymgynghori’

Fe alwodd llefarydd Plaid Cymru am ymgynghori ynglŷn â chynigion Leighton Andrews gan rybuddio y byddai’n rhy hwyr ar ôl i’r panel adolygu gyfarfod.

Roedd hefyd yn galw am sicrhau na fyddai addysg Gymraeg yn cael ei hanwybyddu.

Roedd undeb athrawon yr NUT hefyd yn galw am ymgynghori gydag athrawon er eu bod hyn cefnogi’r pwyslais ar geisio cefnogi ysgolion yn well.