Fe fydd yr Arglwydd McAlpine yn rhoi’r iawndal mae’n ei gael am sylwadau ar Twitter oedd yn ei gysylltu gydag achosion o gam-drin, i’r elusen Plant Mewn Angen.

Mae’r cyn-wleidydd Ceidwadol wedi galw ar y rhai oedd wedi gwneud sylwadau amdano ar y wefan gymdeithasol i ymddiheuro’n swyddogol a thalu “swm call a rhesymol” i elusen y BBC.

Mewn datganiad dywedodd cyfreithwyr yr Arglwydd McAlpine bod y swm y bydd yn rhaid ei dalu yn cael ei asesu ar hyn o bryd.