Dr Rowan Williams
Mae disgwyl y bydd Rowan Williams yn gwneud datganiad am fethiant y bleidlais i gael esgobion benywaidd, wrth iddo ffarwelio â Synod Eglwys Lloegr.

Fe ymatebodd Archesgob Caergaint yn siomedig ar ôl i’r ymgais fethu o ychydig bleidleisiau neithiwr – pe bai chwech o bobol wedi newid ochr, fe fyddai wedi pasio.

Yn union wedyn, fe ddywedodd y Cymro fod y methiant yn ofid personol dwys iddo ef ei hun.

“Siom yw un o’r pethau dw i’n eu teimlo’n bersonol,” meddai. “Dw i’n teimlo’n ddwys hefyd tros fenywod sydd yn yr offeiriadaeth yn Eglwys Lloegr.

“Mae’n deimlad ein bod wedi colli cyfle ac mae hynny’n ofid mawr, yn faich mawr.”

Y lleygwyr yn gwrthod

Roedd y syniad o esgobion benywaidd wedi ei gefnogi gan 42 allan o 44 o esgobaethau Lloegr ac, yn y bleidlais ddoe, roedd yr esgobion eu hunain a’r offeiriadaeth o blaid.

Y rhwystr oedd yr aelodau lleyg – roedd angen cael cefnogaeth dau draean ohonyn nhw hefyd ond fe fethodd hynny o lond llaw o bleidleisiau.

Fe fydd yr Archesgob yn annerch y Synod am y tro ola’ yn ei swydd heddiw ac mae disgwyl y bydd yn sôn ymhellach am y cynnig a oedd hefyd wedi ei gefnogi gan ei olynydd, Justin Welby.

Codi eto

Fe roddodd Rowan Williams awgrym y bydd y mater yn cael ei godi eto’n fuan gan ddymuno y byddai’r Eglwys yn gallu datrys y broblem yn gyflym.

Er mai dim ond ar gyfer Eglwys Lloegr yr oedd y cynnig ddoe, mae’n debyg o gael effaith ar Gymru hefyd, lle mae pleidlais debyg wedi methu.

Fe fydd esgobion Eglwys Lloegr yn cynnal cyfarfod brys o fewn yr oriau nesa’,