Mewn trafodaeth ar y Gymraeg yn San Steffan brynhawn ma dywedodd Aelod Seneddol Aberconwy fod angen edrych ar ddarpariaeth Gymraeg adrannau llywodraeth Prydain.
Dadleuodd Guto Bebb mai gwendid Mesur y Gymraeg 2011 oedd bod Comisiynydd y Gymraeg, a gafodd ei sefydlu gan y Mesur, yn goruchwylio gwaith y cyrff a’r adrannau oedd wedi cael eu datganoli i Gymru yn unig.
Cynigiodd Guto Bebb y gallai’r Pwyllgor Dethol Cymreig yn San Steffan graffu ar ddarpariaeth y Gymraeg yn yr adrannau sydd heb eu datganoli, ar y cyd gyda Chomisiynydd y Gymraeg.
Yn ystod y drafodaeth dywedodd Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies, fod y Swyddfa Gartref wedi cael “dihangfa agos” dros fater papurau pleidleisio etholiadau comisiynwyr yr heddlu, a fu bron â chael eu hargraffu yn Saesneg yn unig yng Nghymru.
Ymateb y Gweinidog yn Swyddfa Cymru
Dywedodd Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, nad ei le ef oedd cynnig i Gadeirydd y Pwyllgor Dethol Cymreig yr hyn y dylen nhw fod yn craffu arno, ond dywedodd fod darpariaeth y Gymraeg yn bwnc y byddai disgwyl iddyn nhw graffu arno.
Roedd Stephen Crabb yn gytûn gyda Guto Bebb fod “cyfyngiadau” i Fesur Iaith 2011 a dywedodd fod Swyddfa Cymru am gynnal adolygiad o ddarpariaeth Gymraeg y cyrff sydd heb eu datganoli. Cadarnhaodd hefyd y bwriad i gael aelod o staff Comisiynydd y Gymraeg i weithio yn Swyddfa Cymru.
“Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i ddarparu’r Gymraeg mewn meysydd sydd heb eu datganoli, ble y bo’r galw am hynny,” meddai Stephen Crabb.
Cymdethas yr Iaith: ‘Deddf Iaith 1993 wedi hen chwythu ei phlwc‘
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones sicrhau bod adrannau Llywodraeth Prydain yn cydymffurfio â Safonau newydd Mesur y Gymraeg 2011.
Wrth ymateb i drafodaeth Guto Bebb, dywedodd Siân Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Mae’r ateb i bryderon Guto Bebb yn syml. Mae’r grym gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan y Mesur i sicrhau bod adrannau Llywodraeth San Steffan yn cydymffurfio â Safonau newydd Mesur y Gymraeg 2011.
“Galwn felly ar yr Ysgrifennydd Gwladol, David Jones, i ddatgan y bydd yn rhoi ei gydsyniad i gynnwys y cyrff hyn o dan y gyfundrefn Safonau, er mwyn rhoi diwedd ar yr holl ansicrwydd.”
“Does dim dwywaith bod cyrff y Goron yn cynnig gwasanaethau pwysig i bobl Cymru, a’i bod yn hanfodol sicrhau tegwch i’r Gymraeg yn y gwasanaethau hynny. Fodd bynnag, nid drwy Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 mae sicrhau hynny.
“Methodd y Ddeddf honno yn llwyr o safbwynt sicrhau tegwch i’r Gymraeg gan gyrff y Goron. Mae adrannau o’r Llywodraeth yn San Steffan yn tramgwyddo ar hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn barhaus, ac mae’r carchardai a’r llysoedd yn enghreifftiau gwarthus sydd wedi cael sylw yn ddiweddar.
“Mae Deddf 1993 wedi hen chwythu ei phlwc, ond mae Mesur y Gymraeg 2011 yn cynnig fframwaith cryfach ar gyfer sicrhau gwasanaethau Cymraeg drwy gyfundrefn Safonau,” meddai Siân Howys.