Mae cynghorwyr Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu gwrthod cais dadleuol i godi 21 o felinau gwynt ar dir comin sy’n eiddo i’r goron tua milltir o bentref Llanllwni, hanner ffordd rhwng Llanbed a Chaerfyrddin.

Ond mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi gwrthod y cynnig brynhawn yma, er boddhad i ymgyrchwyr oedd yn eistedd yn yr oriel gyhoeddus.

Dywedodd Caroline Evans, cyd-lynydd grŵp ymgyrchu fforest Brechfa, ei bod hi “wrth ei bodd” gyda’r penderfyniad a’i fod yn “fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin.”

“Ond rydym yn ymwybodol iawn fod gan y datblygwr yr hawl i apelio,” meddai.

Siaradodd hi yn erbyn y cais, ar sail y difrod posib i’r tirlun a’r ecoleg ar fynydd Llanllwni.

‘Pob melin fel Tŵr Blackpool’

Roedd y cais wedi ennyn llawer o wrthwynebiad yn lleol, a chyn y cyfarfod dywedodd John Jones, tafarnwr y Talardd yn Llanllwni a chadeirydd Cyfeillion Mynydd Llanllwni, fod y melinau yn “anferth – bron cymaint â Thŵr Blackpool – ac fe fydden nhw’n edrych yn salw iawn ar y ben y mynydd.

“Maen nhw’n mynd i achosi sŵn mawr i’r bobl sy’n byw wrth ymyl ac am amharu ar gerddwyr ac ar ffermwyr sy’n pori ar y tir comin.

“Mae pwerdy yn Sir Benfro eisoes yn cynhyrchu digon o drydan i Gymru gyfan – pam ddylen ni orfod cael melinau gwynt i gynhyrchu trydan ar gyfer Lloegr?”