Mae cyn-fasnachwr ariannol yn y Ddinas wedi cael ei garcharu am saith mlynedd  am dwyll a arweiniodd at golledion o £1.4 biliwn i fanc UBS.

Roedd Kweku Adoboli, 32, wedi cyfaddef i’w golledion enfawr mewn e-bost at ei gydweithwyr.

Dywedodd Heddlu Dinas Llundain, a oedd wedi ymchwilio i’w weithgareddau yn dilyn yr e-bost, bod Adoboli  yn un o’r twyllwyr mwyaf soffistigedig iddyn nhw ddod ar ei draws erioed.

Cafodd Adoboli ei gyhuddo o ffugio cofnodion er mwyn cuddio ei weithgareddau yn swyddfa’r banc yn Llundain.

Roedd Adoboli  wedi cyfaddef iddo wneud y colledion ond dywedodd ei fod dan bwysau gan staff i gymryd risg, a arweiniodd at gytundebau gwael a’r colledion mwyaf yn hanes bancio’r DU, meddai.

Cafodd y masnachwr, a anwyd yn Ghana, ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar yn Llys y Goron Southwark yn Llundain yn dilyn achos a barodd am naw wythnos.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Mr Ustus Keith wrth Adoboli: “Mae na elfen gref o’r gamblwr ynddoch chi. Roeddech chi’n haerllug i feddwl nad oedd rheolau’r banc ar gyfer masnachwyr yn berthnasol i chi.”

Mewn datganiad dywedodd UBS eu bod yn falch bod yr achos wedi dod i ben a’u bod yn diolch i’r heddlu a’r awdurdodau yn y DU am y modd proffesiynol roedden nhw wedi delio a’r achos. Roedd y banc yn gwrthod gwneud unrhyw sylw pellach.