Leighton Andrews
Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o ddarpariaeth gwasanaethau addysg ac wedi awgrymu y gallai awdurdodau addysg leol golli eu cyfrifoldeb am ysgolion Cymru.

Dywedodd  Leighton Andrews ei fod wedi rhoi “amser ac arian i’r awdurdodau lleol i roi eu tŷ mewn trefn ond mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw hyn wedi digwydd.”

Fe fydd yr adolygiad yn ystyried creu gwasanaeth mwy rhanbarthol a fyddai’n atebol i Lywodaeth Cymru, neu greu byrddau ysgolion rhanbarthol gan gymryd y cyfrifoldeb o’r awdurdodau lleol yn llwyr.

Dywedodd Leighton Andrews na fyddai’n diystyru unrhyw beth wrth gyhoeddi ei adolygiad. Mae eisoes wedi dweud bod cael 22 awdurdod addysg leol yng Nghymru yn ormod.

Ychwanegodd nad oedd yn fodlon aros tan hydref 2013 cyn cynnal adolygiad i ddarganfod a oedd angen newid strwythur gwasanaethau addysg.

Fe fydd yr ymchwiliad yn cael ei gwblhau erbyn y Nadolig, fe fydd wedyn yn sefydlu grŵp adolygu a fydd yn cyflwyno adroddiad iddo erbyn diwedd mis Mawrth 2013.

Dyma’r manylion

Fe fydd yr arolwg yn ystyried nifer o bosibiliadau:

  • Cael trefn ranbarthol yn hytrach na’r awdurdodau lleol.
  • Rhoi gofal am wella ysgolion yn nwylo gwasanaeth rhanbarthol yn hytrach na’r siroedd, a hwnnw’n atebol i Lywodraeth Cymru.
  • Gorfodi gwasanaethau addysg awdurdodau lleol i ddod at ei gilydd dan reolaeth ar y cyd.
  • Mynd ymhellach a mynd â holl rymoedd addysg llywodraeth leol a’u rhoi yn nwylo byrddau ysgol rhanbarthol, yn atebol i Lywodraeth Cymru ac efallai heb gynrychiolaeth gan awdurdodau lleol.

Ymateb

Wrth ymateb i gyhoeddiad Leighton Andrews, dywedodd Anna Brychan, cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru eu bod yn croesawu’r cyhoeddiad ond fe rybuddiodd yn erbyn  cymryd y cyfrifoldeb oddi ar awdurdodau addysg leol yn llwyr.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad  ond mae llefarydd addysg y blaid Simon Thomas wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymgynghoriad llawn yn digwydd fel rhan o’r adolygiad i’r ddarpariaeth o wasanaethau addysg yng Nghymru.

Dywedodd fod cyhoeddi’r adolygiad yn gyfaddefiad o fethiant un llywodraeth Lafur ar ôl y llall i sicrhau safonau uchel, ac nad bai’r awdurdodau lleol yw hyn i gyd.

Wrth groesawu’r adolygiad dywedodd Ysgrifennydd Undeb yr NUT yng Nghymru David Evans bod ’na “ddiffyg cysondeb wedi bod gan awdurdodau lleol ac nad oedd y rhuthr i gyflwyno consortia rhanbarthol wedi bod yn help ac wedi gadael llawer o ysgolion mewn limbo.”

“Ni allwn ni ganiatáu i’r adolygiad yma amharu ar y cymorth sydd ei angen ar ysgolion nawr, ac yn y tymor hir.

“Mae’n hanfodol bod ’na ymgynghoriad eang gyda’r proffesiwn er mwyn sicrhau bod y rhai hynny sy’n dysgu yn rhan o’r broses adolygu,” meddai.