Mae newyddiadurwr 30 oed wedi cael ei arestio gan yr heddlu sy’n ymchwilio i achosion honedig o hacio ffonau symudol sydd wedi eu dwyn.
Cafodd y dyn ei arestio yn ei gartref yn ne ddwyrain Llundain bore ma ar amheuaeth o droseddau o dan y Ddeddf Camddefnydd Cyfrifiaduron a bod ag eiddo wedi ei ddwyn yn ei feddiant.
Mae 14 o bobl bellach wedi cael eu harestio fel rhan o Operation Tuleta, sef ymchwiliad Scotland Yard i achosion o hacio cyfrifiaduron a ffonau symudol sydd wedi eu dwyn.