James Murdoch
Mae Ofcom wedi penderfynu bod y darlledwr Sky yn haeddu cadw ei drwydded darlledu ar ôl i News International fod ynghanol yr helynt hacio ffonau.

Roedd rheoleiddiwr y cyfryngau wedi cynnal adolygiad o Sky ar ôl i News International gael ei orfodi i gau’r News of the World yn sgil yr helynt am glustfeinio ar negeseuon ffôn.

Daeth Ofcom i’r casgliad bod Sky yn “gymwys” i gadw ei drwydded ond dywedodd bod ymddygiad cyn gadeirydd BSkyB James Murdoch pan oedd yn brif weithredwr News International yn is na’r safonau disgwyliedig.

Mae News Corporation yn berchen 39% yn BSkyB tra bod mab Rupert Murdoch, James, yn gadeirydd y darlledwr cyn ymddiswyddo yn gynharach eleni mewn ymdrech i bellhau’r cwmni o’r helynt.