Mae Ofcom wedi cyhoeddi mai Made in Cardiff sydd wedi derbyn y drwydded ar gyfer darlledu sianel deledu leol ar gyfer Caerdydd.

Pennaeth y sianel newydd fydd Bryn Roberts, a fu’n Rheolwr Gyfarwyddwr ar gwmni adnoddau teledu Barcud Derwen. Aeth y cwmni i ddwylo gweinyddwyr yn 2010 ac ers hynny mae Bryn Roberts wedi bod yn rhedeg cwmni ymgynghori ym maes y cyfryngau.

Ym mis Awst dywedodd Bryn Roberts y bydd sianel Made in Cardiff yn darparu newyddion, chwaraeon, materion cyfoes ac adloniant.

“Dyma brifddinas Cymru – gadewch inni fod yn falch ohoni,” meddai.

Dywedodd Made in Cardiff fod gan y sianel amryw o bartneriaid, yn cynnwys Gleision Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, a Menter Caerdydd.

Roedd dau gais ar gyfer trwydded i ddarlledu sianel i Gaerdydd, y llall gan gwmni technoleg Cube.

Bydd y sianel yn cael ei darlledu yn rhad ac am ddim i wylwyr, ar sianel 45 yn y ddinas.

Ni fu cais i redeg teledu lleol yn ail ddinas Cymru, Abertawe.