Hen lyn chwarel (Andy Spenceley CCA2.0)
Mae arbenigwyr damweiniau wedi rhybuddio pobol rhag mynd i ymdrochi mewn afonydd, hen weithfeydd  a llynnoedd yn ystod y tywydd poeth.

Daw hyn wedi i dri bachgen o Loegr farw mewn damweiniau dŵr yn ystod y ddeuddydd diwetha’.

  • Roedd bachgen 14 oed wedi boddi wrth nofio mewn gored yn Afon Avon yn ardal Bryste.
  • Fe fu bachgen 15 oed farw yn Afon Nene ger Kettering yn Swydd Northampton.
  • Daethpwyd o hyd i gorff bachgen 14 oed ddoe ar ôl iddo gwympo i mewn i bwll chwarel ger Dudley yng ngorllewin y Midlands.

“Ryden ni’n deall y demtasiwn i fynd i nofio mewn afonydd, chwareli a llynnoedd, yn arbennig yn ystod y tywydd poeth,” meddai David Walker, Pennaeth Diogelwch Hamdden yn y corff atal damweiniau, RoSPA.

“Ymhlith y peryglon, mae’r posibilrwydd y gall y dŵr fod yn llawer poethach na’r disgwyl ac efallai bod cerrynt cryf newu sbwriel o dan wyneb y dŵr na allwch chi ei weld.”