Baner Gogledd Korea
Mi roedd ʼna ymdeimlad o embaras o amgylch maes pêl-droed Parc Hampden yn Glasgow ddoe ar ddiwrnod agoriadol y Gemau Olympaidd.

Mi roedd tîm pêl-droed merched Gogledd Korea i fod i wynebu Colombia ond roedd yn rhaid gohirio dechreuad y gêm am awr gan fod y faner anghywir wedi ei harddangos wrth i’r timau gael eu cyflwyno ar ddechrau’r gêm.

Mi gafodd baner De Korea ei harddangos yn hytrach na baner Gogledd Korea.

Mi wnaeth tîm Gogledd Korea adael y maes wrth weld y faner anghywir.

Roedd hwn yn gamgymeriad sensitif gan fod tensiynau mawr yn bodoli rhwng De a Gogledd Korea ac yn dechnegol maen nhw’n parhau i fod mewn rhyfel â’i gilydd ers y gwrthdaro rhwng y ddwy wlad ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf wnaeth ddiweddu mewn cadoediad.

Fe ddychwelodd tîm Gogledd Korea i’r maes ar ôl i’r faner gywir gael ei harddangos. Mi wnaethon nhw ennill y gêm o ddwy gôl i ddim. Mi wnaeth y ddwy gôl gael eu sgorio gan Song Hui Kim.