Fe fydd plisman yn ymddangos o flaen ynadon heddiw wedi’i gyhuddo o sawl trosedd rywiol.
Comisiwn Cwynion yr Heddlu oedd yn rheoli’r ymchwiliad i weithgareddau’r Ditectif Gwnstabl Jeffery Davies o Orsaf yr Heddlu, Merthyr Tudful.
Fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli i wynebu cyfanswm o wyth cyhuddiad – dau o ymosod yn rhywiol, un o ddinoethi anweddus a phump o dorri’r Ddeddf Gwarchod Gwybodaeth.
Mae Jeffery Davies, sy’n 41 oed, yn gweithio i Heddlu De Cymru.