Fe allai rhagor o fanciau fod yn gysylltiedig â’r helynt sydd wedi golygu bod Barclays yn cael dirwy o £290 miliwn yn dilyn honiadau ei fod wedi ceisio dylanwadu ar gyfraddau benthyciadau ers blynyddoedd.

Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) wedi datgelu bod nifer o ymchwiliadau eraill ar y gweill ynglŷn â honiadau bod Barclays wedi defnyddio tactegau twyllodrus i geisio dylanwadu ar y cyfraddau mae banciau yn benthyg i’w gilydd.

Mae ’na alw ar bennaeth Barclays, Bob Diamond, i ymddiswyddo yn sgil yr helynt. Mae eisoes wedi dweud na fydd yn derbyn ei fonws eleni.