Mae ditectifs sy’n ymchwilio i farwolaeth plentyn mewn ffrwydrad yn Oldham yn parhau i holi dyn  ar amheuaeth o ddynladdiad.

Cafodd y dyn, 32, ei arestio ddoe a’i gadw yn y ddalfa yn dilyn marwolaeth Jamie Heaton, 2, yn Shaw, Oldham.

Mae’r heddlu hefyd yn aros i holi cymydog y plentyn, Andrew Partington, 27, a gafodd losgiadau difrifol yn y ffrwydrad.

Cafodd tri o dai eu difrodi yn y ffrwydrad ddydd Mawrth.