Angela Merkel
Fe fydd argyfwng yr ewro dan y chwyddwydr eto heddiw wrth i’r Undeb Ewropeaidd gynnal uwch-gynhadledd ym Mrwsel.
Fe fu Canghellor yr Almaen Angela Merkel ac Arlywydd Ffrainc Francois Hollande yn cynnal trafodaeth ym Mharis neithiwr cyn y gynhadledd ond mae’n debyg bod y ddau yn anghydweld ynglŷn â’r cynlluniau i geisio datrys yr argyfwng.
Mae’r Almaen yn gwrthwynebu cynllun i gyd-lynu dyledion tra bod Ffrainc yn mynnu bod angen cael mwy o undod rhwng gwledydd yr ewro.
Y cwestiwn mawr fydd yn cael ei drafod heddiw yw pa strategaeth sy’n mynd i gadw’r marchnadoedd arian yn dawel a rhoi cyfle i’r Undeb Ewropeaidd hybu’r economi a chreu swyddi.
Dywedodd cadeirydd yr uwch-gynhadledd Herman Van Rompuy mewn llythyr i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd mai her yr uwch-gynhadledd “yw rhoi neges glir ein bod yn gwneud popeth posib i geisio datrys yr argyfwng.”
Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague bod yr uwch-gynhadledd yn ddim ond un mewn cyfres o gyfarfodydd sydd wedi cael eu cynnal eleni ac y byddai’n gamgymeriad i ddisgwyl gormod o un cyfarfod yn unig.