Ty'r Arglwyddi
Mae’r Blaid Lafur yn benderfynol o greu Tŷ’r Arglwyddi sy’n hollol etholedig, meddai arweinydd y blaid yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Dywedodd y Farwnes Royall fod Llafur am weld holl aelodau Tŷ’r Arglwyddi yn cael eu hethol gan y cyhoedd yn hytrach na chael cymysgedd o wleidyddion etholedig, apwyntiadau gwleidyddol ac esgobion.
Mae’r Llywodraeth glymblaid yn San Steffan heddiw wedi cyflwyno ei chynigion i ethol 80% o aelodau Tŷ’r Arglwyddi a lleihau’r nifer o aelodau o 800 i 450.
Yn ôl mesur y Llywodraeth bydd aelodau yn cael eu hethol am dymor o 15 mlynedd, gyda 120 aelod yn cael eu hethol ym mhob etholiad cyffredinol sydd i ddod, tan fod y broses o newid yn cael ei chwblhau erbyn 2025.
Yn dilyn beirniadaeth mae Gweinidogion wedi cael gwared ar gynllun i roi cyflog o £60,000 y flwyddyn i aelodau Tŷ’r Arglwyddi.
‘Angen refferendwm’
Mae’r Farwnes Royall wedi beirniadu’r diffyg sicrwydd yn y mesur ynghylch goruchafiaeth Tŷ’r Cyffredin dros Dŷ’r Arglwyddi ac yn mynnu bod angen refferendwm ar y diwygio.
Dywedodd yr Arglwydd Richard o Rydaman, a gadeiriodd gydbwyllgor ar greu fersiwn ddrafft o fesur y Llywodraeth, fod mater goruchafiaeth Tŷ’r Cyffredin heb ei ddatrys.
Dywedodd yr Arglwydd Howe o Aberafan, a fu’n Ysgrifennydd Tramor yn llywodraeth Margaret Thatcher, na ddylai Tŷ’r Arglwyddi geisio cystadlu gyda Thŷ’r Cyffredin ac y dylai fod mor wahanol â phosib.
Ddoe dywedodd Downing Street fod y cynigion i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi wedi cael cefnogaeth gref yng nghyfarfod y Cabinet, ond mae nifer o Geidwadwyr yn anniddig am y cynllun ac wedi dadlau fod mynd i’r afael â’r economi yn bwysicach.
Disgrifiodd Maer Llundain, Boris Johnson, y cynlluniau i gael ail Dŷ etholedig fel “nonsens Lib Dem-aidd”