Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Llanelli.

Yn ôl y cynlluniau, bydd yr ysgol yn cael ei chodi ar dir y tu ôl i Ysgol Ffwrnes ar Goedlan Denham yn y dref.

Mae disgwyl i’r ysgol honno gael ei throi’n gyfleuster storio addysgol, ac mae’n ffurfio rhan o’r Rhaglen Moderneiddio Addysg.

Mae’r Rhaglen yn gyfrifol am fesur pa mor addas yw safleoedd, yn ogystal â’u maint a’u natur.

Cynhaliodd y cyngor sir arolwg o holl ysgolion ardal Llanelli. Mae Ysgol Ffwrnes yn un o dair ysgol Gymraeg yn yr ardal honno.

Nododd adroddiad yr arolwg fod safon y cyfleusterau a’r amodau gwaith  yn annigonol. Mae 55% o gyfleusterau’r ysgolion a gafodd eu harolygu mewn adeiladau dros dro.

Ychwanegodd yr adroddiad y byddai’r ysgol newydd yn “gwella safon addysg Gymraeg yn yr ardal”.

Mae’n nodi mai amcanion yr arolwg yw cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael yn ysgolion Cymraeg yr ardal, cyflwyno addysg Gymraeg mewn modd cost effeithiol a chyfrannu at dargedau Llywodraeth y Cynulliad o ran ei strategaeth ar addysg Gymraeg.

Gwrthwynebiad

Mae’r cynghorydd sir, Siân Caiach wedi mynegi pryderon ynghylch y cynlluniau am resymau diogelwch ac ymarferol.

Dywedodd wrth Golwg360: “Rwy’n sicr o blaid addysg Gymraeg, ond bwriad adeiladu’r ysgol newydd hon oedd creu atodiad i Ysgol Dewi Sant.

“A dydyn nhw ddim yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus i blant o’r tu allan i’r ardal. Mae tua 60% o’r plant yn dod o’r tu allan a byddan nhw’n cael eu rhoi mewn adeiladau dros dro.

“Mae ysgol newydd i 480 o blant yn rhy fawr. Mae hi yn yr ardal anghywir ac mae’n anodd ei chyrraedd yn y car.

“Mae yna broblemau ar y safle hefyd. Rwy’n credu y dylen nhw [y Cyngor Sir] fod wedi gwneud cynlluniau eraill.

“Mae cynnydd yn nifer y plant sy’n mynd i ysgolion Cymraeg ac oherwydd bod ysgolion Saesneg yn cau, mae adeiladau’n cael eu gwagio. Mae rhoi plant mewn mannau anghysbell yn warthus.”