Mick Philpott a'i wraig Mairead mewn cynhadledd i'r wasg
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i farwolaeth chwech o blant mewn tân mewn tŷ yn Derby wedi arestio rhieni’r plant.

Cafodd Mick Philpott, 55, a’i wraig Mairead, 31, eu harestio y bore ’ma yn Derby mewn cysylltiad â’r tân, a gafodd ei gynnau’n fwriadol medd yr heddlu.

Bu farw chwe phlentyn rhwng pump a 13 oed yn y tân ar 11 Mai.

Mae’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Steve Cotterill wedi rhybuddio y bydd yr ymchwiliad yn un hir a chymhleth ac mae wedi annog y cyhoedd heddiw i beidio a chelu gwybodaeth.

“Yng ngolwg yr arestiadau yma rwy’n annog unrhyw un sydd wedi bod yn dal yn ôl, neu sydd wedi bod yn teimlo’n anghyffyrddus am leisio eu pryderon, i wneud hynny nawr.

“Er i’r tân ddigwydd dros bythefnos yn ôl mae’r ymchwiliad yn un cymhleth iawn a bydd yn cymryd amser i ni roi holl ddarnau’r noson drasig yma at ei gilydd,” ychwanegodd Steve Cotterill.