Fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw yn cyflwyno adroddiad blynyddol ar yr hyn y mae ei lywodraeth wedi cyflawni yn ei blwyddyn gyntaf.

Dyma fydd adroddiad cyntaf Carwyn Jones fel Prif Weinidog a bydd yn edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu ac yn edrych ymlaen at raglen lywodraethu’r Llywodraeth Lafur dros y pedair blynedd nesaf.

Y bwriad yw rhoi’r wybodaeth i bobol fedru barnu a yw’r llywodraeth yn gwneud yr hyn yr oedden nhw wedi addo gwneud, ond nid oes disgwyl targedau pendant gan Carwyn Jones er bod y gwrthbleidiau yn galw am hynny.

Dywedodd Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr ei fod am weld “targedau penodol” er mwyn mesur cyrhaeddiad y llywodraeth mewn meysydd megis rhestrau aros ysbytai, perfformiad addysgol disgyblion Cymru a denu buddsoddiad i Gymru.

Pwysleisiodd Aled Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol  yr angen am “dargedau mesuradwy” fel bod pobol Cymru yn gallu “gwybod sut mae eu llywodraeth yn perfformio.”

Mae disgwyl bydd Carwyn Jones yn gwneud ei ddatganiad llafar tua 3 o’r gloch heddiw, yn ystod cyfarfod lawn y Cynulliad, gyda chyfraniadau hefyd gan y Gweinidogion ar eu hadrannau penodol nhw.

Llywodraeth yn “hel eu traed” medd Plaid Cymru

Ar ddiwrnod adroddiad y Prif Weinidog mae Plaid Cymru wedi ymosod ar “ddiffyg brys y llywodraeth Lafur ar greu swyddi.”

Dywedodd llefarydd y Blaid ar yr economi, Alun Ffred Jones AC,

“Tra bod Llafur yn hel eu traed, mae swyddi yn cael eu colli, cyflogau yn cael eu gwasgu, biliau yn cynyddu a theuluoedd ledled Cymru yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.

“Mae’n fater o wir bryder nad yw’n ymddangos bod unrhyw wir gynnydd yn cael ei wneud ar ffyrdd newydd o godi arian ar gyfer mwy o fuddsoddi cyfalaf.

“Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y llywodraeth wrthym y byddant yn gwneud cyhoeddiad ar ddewisiadau cyllido yn yr hydref. Ond pam yr aros? Bu gan y llywodraeth dros flwyddyn i symud yn hyn o beth,” meddai Aelod Cynulliad Arfon.