Lee Davies, dde a Brent McCarthy, chwith
Mae disgwyl i gannoedd o bobl fynd i angladd y milwr Lee Davies  yn Aberteifi heddiw.

Cafodd yr Is-gorpral, oedd yn 27 oed ac yn aelod o’r Gwarchodlu Cymreig,  ei saethu’n farw ar 12 Mai  wrth wasanaethu yn nhalaith Helmand yn Afghanistan.

Bu farw’r Corporal Brent John McCarthy, 25, o Telford, Sir Amwythig, yn yr un digwyddiad.

Bydd angladd Lee Davies, gafodd ei fagu yn Aberteifi, yn cael ei gynnal  gydag anrhydeddau milwrol llawn yn Eglwys y Santes Fair am 11.30am, ac yna i ddilyn yn amlosgfa Parc Gwyn yn Arberth.