Mae’r fflam Olympaidd yn ymlwybro ar ei thaith yng ngogledd Cymru heddiw wrth iddi gael ei chludo o Fiwmares i Gaer, gan ddringo i ben yr Wyddfa ar ei ffordd.
Mae’r fflam eisoes wedi croesi’r Fenai a dringo ar y trên bach i ben yr Wyddfa, sef y man uchaf i’r fflam ddringo ar ei thaith deufis o hyd.
Mae’n parhau ar ei thaith ar hyd yr arfordir ar hyn o bryd, gan ymweld â threfi Llandudno, Bae Colwyn, Abergele, Y Rhyl, Rhuddlan, Cei Cona a Phenarlâg. Bydd y fflam yn gadael Cymru toc ar ôl 5 o’r gloch heddiw ac yn treulio’r noson yng Nghaer.
Yfory bydd y fflam yn dychwelyd i Gymru pan fydd yn ymweld â Wrecsam, Rhosllannerchrugog, Llanymynech a’r Trallwng.