Mae cwmni Greggs yn dathlu heddiw yn dilyn tro pedol y Llywodraeth ynglŷn â’r “dreth bastai” amhoblogaidd.
Mae’r Canghellor George Osborne wedi newid ei gynlluniau i godi 20% o Dreth ar Werth ar fyrbrydau poeth fel pasteiod a pheis.
Mae’r tro pedol yn dilyn ymgyrch oedd wedi cael cefnogaeth 300,000 o bobl i sgrapio’r dreth. Heddiw, roedd cyfranddaliadau Greggs wedi cynyddu 8%.
Dywedodd prif weithredwr Greggs Ken McMeikan: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r cwsmer mwy na dim arall.
“Petai ni wedi gorfod codi ein prisiau o 20% pan mae’n cwsmeriaid yn wynebu cyfnod anodd, yna fe fuasem ni wedi disgwyl gweld gostyngiad mewn gwerthiant. Rwy’n credu bod y Llywodraeth yn haeddu cael eu cymeradwyo.”
Mae’r tro pedol yn golygu y bydd y dreth o 20% yn cael ei godi ar basteiod a pheis sy’n cael eu cadw’n boeth, ac nid y rhai sy’n dal yn gynnes ar ôl dod allan o’r popty.
Roedd y diwydiant pasteiod wedi honni bod y cynlluniau yn anymarferol a chafodd deiseb ei chyflwyno i Downing Street.