Yr Arlywydd Bashar Assad
Mae’r llysgennad rhyngwladol Kofi Annan yn cwrdd ag Arlywydd Syria Bashar Assad yn Namascus i drafod y cynllun heddwch i geisio dod â diwedd i’r trais yn y wlad.
Mae Kofi Annan wedi disgrifio’r gyflafan yn nhref Houla wythnos ddiwethaf lle cafodd 100 o bobl eu lladd, y rhan fwyaf yn blant a merched, fel un “erchyll”.
Dywedodd y Cenhedloedd Unedig bod lluoedd llywodraeth Syria wedi ffrwydro bomiau at y pentrefi, ond mae’r llywodraeth yn gwadu cyfrifoldeb am yr ymosodiad.
Mae llywodraeth Syria wedi wynebu beirniadaeth hallt gan y gymuned ryngwladol gan gynnwys Rwsia sydd, hyd yn hyn, wedi gwrthwynebu unrhyw ymyrraeth.