Gabor Sarkozi
Fe fydd dau ddyn o’r Rhyl a gafwyd yn euog yn ddoe o lofruddio gyrrwr fan mewn pentref yn Sir Ddinbych y llynedd, yn cael eu dedfrydu heddiw.
Bu farw Gabor Sarkozi ar ôl i James Siree, 22 oed a’i ewythr, Gary Bland, 42 oed, ymosod arno ym mhentref Gallt Melyd ger Prestatyn. Roedd Sarkosi yn byw yn y Rhyl ac yn dod o Hwngari yn wreiddiol.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod James Siree a Gary Bland wedi dyrnu, cicio a sathru ar Gabor Sarkozi. Roedd y ddau wedi gwadu eu bod wedi ei lofruddio ar Hydref 18, 2011, ond dim ond awr a hanner gymrodd y rheithgor i’w cael yn euog.
Bydd y barnwr, Mr Ustus Griffith-Williams, yn cyhoeddi ei ddedfryd heddiw. Dywedodd ei fod am ystyried lleiafswm o garchar am oes.