Mae Esgob Catholig Wrecsam wedi dweud ei fod yn “barod i fynd i garchar” cyn cael ei orfodi i briodi cyplau hoyw.
Mewn cyfweliad ar raglen materion cyfoes pobol ifanc Hacio, sydd i’w ddarlledu heno, mae’r Esgob Edwin Regan yn dweud y byddai’n dal i wrthod priodi cyplau hoyw, hyd yn oed petai gyfraith gwlad yn ei gwneud hi’n ofynnol.
“Perthynas rhwng pobol hoyw, mae’n perthyn iddyn nhw – ond dydy o ddim yn briodas. Dyna fy safbwynt i, safbwynt sylfaenol sy’n eitha syml,” meddai’r Esgob 76 oed.
“Bydd rhaid i ni drin pobol efo pob parch, wrth gwrs, ond dydi hi ddim yn bosib i ni briodi pobol hoyw, dyna’rbottom line, fel petai.”
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth San Steffan ar ganol ymgynghoriad ar y cynnig i gyfreithloni priodasau sifil i gyplau hoyw erbyn 2015.
Mae’r cynigion hyn yn cynnwys rhoi’r hawl i gyplau o’r un rhyw gael priodi mewn swyddfeydd cofrestri neu mewn unrhyw seremoni sifil arall.
‘Yn barod i fynd i garchar’
Ond mae’r Eglwys Gatholig yn gwrthwynebu’r cynigion yn chwyrn.
“Dwi’n meddwl bod unrhyw fwriad i newid ystyr priodas yn mynd i achosi niwed i genedlaethau sydd heb eu geni eto,” meddai’r Esgob Edwin Regan, cyn dweud y byddai’n “barod i fynd i garchar” cyn priodi cwpwl hoyw.
“Mae’n rhywbeth sy’n bwysig iawn, r’yn ni’n siarad am bethau sy’n ddwfn iawn yn y natur ddynol,” meddai.
Bydd y cyfweliad llawn gyda’r Esgob yn cael ei ddarlledu ar raglen gyntaf y gyfres newydd o Hacio ar S4C heno, am 10pm.