Mae’r Urdd wedi lansio ei Ap cyntaf heddiw fydd yn ychwanegu at brofiad y miloedd fydd yn heidio i faes Eisteddfod yr Urdd Eryri’r wythnos nesaf.

Am y tro cyntaf bydd Eisteddfodwyr yn gallu sgrolio dros fap y Maes ar eu ffôn, gweld amserlen y pafiliwn a rhestr o ddigwyddiadau’r Maes, ynghyd â phob math o wybodaeth ddefnyddiol arall.

Mae’r Ap hefyd yn caniatáu i chi gofrestru i dderbyn gwybodaeth am Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro’r flwyddyn nesaf.

Urdd Ti Fi

Cwmni Telesgop sydd yn noddi’r Ap, a nhw hefyd sy’n gyfrifol am Urdd Ti Fi, sef sianel deledu unigryw ar-lein sydd ar gael i holl aelodau’r Urdd ar www.urdd.org. Bydd yr holl wybodaeth hefyd yn cael ei ddolennu i dudalennau Facebook a Twitter yr Urdd.

Meddai Euros Jones-Evans, Cyfarwyddwr Masnach Telesgop, “Mae’r Urdd yn fudiad sydd â’i fys ar y pwls o ran anghenion ieuenctid heddiw ac rydym yn falch iawn o allu rhannu’r weledigaeth honno drwy gynnig y gwasanaeth Urdd Ti Fi ac am y tro cyntaf y rhaglen AP URDD ar gyfer ffonau symudol.

“Y gobaith yw y bydd yr adnodd yma yn ffordd o ehangu’r profiad Eisteddfodol i blant a phobl ifanc a’r gobaith yw gallu datblygu ar hyn o flwyddyn i flwyddyn.”

Mae’r Ap Urdd yn gweithio ar iPhone, iPad ac iPod, ac ar gael am ddim drwy iTunes.