Yr Wyddfa o Lyn Llydaw
Mae Cymru yn llawn llecynnau delfrydol ar gyfer ffilmio ffilmiau mawr medd dirprwy Brif Weithredwr y Sefydliad Ffilm Prydeinig.
Roedd Tim Cagney yng nghanolfan y Chapter yng Nghaerdydd i drafod cynllun pum mlynedd y Sefydliad gan amlinellu argymhellion er mwyn buddsoddi arian Loteri mewn ffilmiau yn y DU.
Dywedodd bod y diwydiant ffilmiau led-led y byd yn mynd o nerth i nerth a bod Cymru o’r herwydd yn gweld “adfywiad’ wrth ymwneud a’r diwydiant gan fod “cyfleusterau o’r safon uchaf a chast a thechnegwyr sydd gan sgiliau uchel iawn yma,” meddai.
“Fel lleoliad, mae Cymru cystal ag unrhyw le yn y byd,”meddai Mr Cagney.
Ychwanegodd y bydd hyn yn sicr yn datblygu os y bydd y sectorau preifat a chyhoeddus yn parhau i fuddsoddi yn y diwydiant.
Yn ddiweddar mae rhannau o ffilmiau Harry Potter, Wrath of the Titans, Snow White a Robin Hood wedi cael eu ffilmio yma.