Mae Ffederasiwn yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cartref i wahardd protestiadau yn ystod cyfnod y coronafeirws.

Dywedodd cadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu John Apter bod yn rhaid i Priti Patel fod yn “hollol glir” wrth ddatgan nad yw’n caniatáu cyfarfodydd torfol.

Daw hyn wedi ail benwythnos o wrthdaro rhwng yr heddlu a phrotestwyr asgell dde eithafol yn Llundain mewn ymateb i brotestiadau gwrth-hiliaeth yn dilyn marwolaeth y dyn du, George Floyd.

Ychwanegodd John Apter bod y protestiadau yn peri risg i swyddogion yr heddlu yn ogystal â’r rhai oedd yn eu mynychu.

Cafodd 23 o swyddogion yr heddlu eu hanafu yn Llundain ar ôl i boteli a bomiau mwg gael eu taflu atyn nhw ddydd Sadwrn (Mehefin 13).

Roedd y Prif Weinidog Boris Johnson wedi beirniadu’r protestwyr fu’n rhan o’r digwyddiad.

Cafodd tua 113 o bobl eu harestio yn y digwyddiad.