Gobaith y wasg a’r awdur yw bydd cyfrol newydd o’r enw Lwmp yn ysbrydoli eraill, ac yn codi gwên…

Ym mis Hydref mae Gwasg y Bwthyn yn cyhoeddi llyfr go arbennig i gyd-daro â Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron – sef Lwmp gan Rhian Wyn Griffiths. Mae’r llyfr yn seiliedig ar y dyddiaduron y bu’n eu cadw ar ôl iddi ddarganfod lwmp yn ei bron ym mis Chwefror 2021.