Mae awyren EasyJet wedi hedfan am y tro cyntaf ers 11 wythnos o faes awyr Gatwick fore Llun, Mehefin 15, wrth i’r cwmni ailddechrau gweithredu.

Mynnodd y Prif Weithredwr, Johan Lundgren, y byddai’n  “teimlo 100% yn ddiogel ” ar awyrennau llawn.

Dywedodd fod y cwmni awyrennau o Luton wedi cymryd arweiniad gan reoleiddwyr rhyngwladol i ddatblygu trefn ddiogelwch a hylendid gwell ar gyfer ailddechrau hedfan ddydd Llun.

Bydd gofyn i deithwyr a chriw wisgo mygydau, bydd awyrennau’n cael eu glanhau’n drylwyr yn rheolaidd, a bydd hancesi sychu a hylif diheintio dwylo ar gael.

Hedfanodd awyren gyntaf EasyJet ers iddyn nhw ddod i stop ar Mawrth 30 oherwydd y coronafeirws, a gwneud ei ffordd o Gatwick i Glasgow am 7 y bore.

Cynyddu hediadau

Dywedodd Johan Lundgren nad oedd cael gweithredu un daith mewn bron i dri mis wedi bod yn  “drychinebus “, ac mae’r cwmni hedfan “wedi cyffroi” o gael ailddechrau.

Er gwaethaf y polisi cwarantin 14 diwrnod a’r cyfyngiadau teithio presennol a osodwyd ym Mhrydain, dywedodd Johan Lundgren ei fod yn credu fod gwyliau haf yn bosibilrwydd.

“Byddem yn gobeithio ac yn edrych ymlaen yn fawr at weld cyfyngiadau’n cael eu codi,” meddai,

“Neu pontydd awyr yn cael eu rhoi ar waith lle mae’n gwneud synnwyr i wneud hynny, gan ganiatáu i gwsmeriaid Prydain yn ogystal â phobl yng ngweddill Ewrop allu mynd ar wyliau. ”

Byddai pontydd awyr yn golygu bod teithwyr yn cyrraedd o wledydd lle mae’r risg o gael eu heintio gan y coronafeirws yn isel er mwyn osgoi gorfod hunanynysu am 14 diwrnod.

Bydd rhaglen gychwynnol EasyJet yn cynnwys hediadau domestig ym Mhrydain yn bennaf, ynghyd â hedfan i Ffrainc.

Bydd y cwmni’n cynyddu ei weithrediadau yn ystod yr wythnosau nesaf ac mae’n bwriadu ailagor hanner o’u 1,022 o lwybrau erbyn diwedd y mis nesaf, gan gynyddu i 75% o’u llwybrau yn ystod mis Awst.

Bydd y cwmni’n gweithredu ar tua 30% o’i gapasiti arferol rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.