Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu yn dilyn ymosodiad ar dri heddwas yng Ngheredigion yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Roedd y ddau ddigwyddiad ar wahân yn ymwneud a phoeri a phesychu yn wynebau swyddogion Heddlu Dyfed-Powys.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad cyntaf tra bod swyddogion yn ceisio helpu dyn oedd angen sylw meddygol.

Cafodd yr heddlu eu galw i Aberaeron am 5.20 ar brynhawn dydd Iau, Mehefin 4 yn dilyn adroddiad fod dyn yn anymwybodol ar y llawr yn Heol y Gogledd.

Ar ôl i’r swyddogion gyrraedd, roedd pedwar parafeddyg yno yn trin Nathan Newman  a oedd yn cael ei amau o fod dan ddylanwad alcohol a sylweddau anghyfreithlon.

“Poeri”

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y dyn 18 mlwydd oed yn sarhaus tuag at staff y gwasanaeth ambiwlans ac yn ymddwyn mewn ffordd ymosodol a bygythiol.

“Roedd ei gyflwr wedi gwella ac roedd yn ymddangos ei fod wedi tawelu,” meddai’r Arolygydd Rhys Jones, “felly cafodd gymorth i’w draed gan heddwas.

“Heb rybudd fe boerodd yn sydyn yn wyneb y swyddog, gyda phoer yn mynd i lygad yr heddwas.

“Cafodd ei arestio ar unwaith a rhoddwyd gorchudd arbennig arno wrth iddo barhau i boeri tra’r oedd ar y llawr.

“Ar y ffordd i’r ysbyty, llwyddodd i dynnu’r gorchudd, cyn poeri dro ar ôl tro ar hyd cefn fan yr heddlu.

“Parhaodd ei ymddygiad bygythiol, a gwaeddodd mai’r cyfan y gallai ei wneud oedd poeri, rhoi ‘afiechyd ofnadwy’ i swyddogion a ‘gobeithio y byddan nhw’n marw ‘.”

Cafodd Nathan Newman ei gyhuddo o ymosod ar weithiwr argyfwng, a difrod troseddol, a chafodd ei ddedfrydu i 32 wythnos yn y carchar.

Aberystwyth

Cafodd yr heddlu eu galw i siop y Co-op ym Mhenparcau ger Aberystwyth ddydd Mercher, Mehefin 10, yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi rhedeg i ffwrdd gyda bocs elusen a phwrs ar ôl cael ei ddarganfod yn ystafell y staff.

Daethpwyd o hyd iddo gydag arian a cherdyn banc yn enw rhywun arall, a chafodd ei arestio ar amheuaeth o fyrgleriaeth.

Tra yng nghefn cerbyd yr heddlu, trodd Christopher Jones tuag at yr heddwas oedd yn eistedd wrth ei ymyl a dweud fod ganddo Coronafeirws ac yna poerodd yn ei wyneb, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Cafodd y dyn 41 oed ei gyhuddo o fyrgleriaeth ac ymosod ar weithiwr argyfwng ac ymddangosodd yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Iau, Mehefin 11, lle plediodd yn euog i’r cyhuddiadau.

Cafodd ei ddedfrydu i 28 wythnos yn y carchar.

“Ymddygiad gwarthus”

“Dydyn ni ddim am dderbyn  ymosodiadau nac ymddygiad fel hyn tuag at weithwyr gwasanaethau brys, sy’n gwneud eu dyletswydd i ddiogelu’r cyhoedd,” meddai’r Arolygydd Rhys Jones.

“Yn y ddwy enghraifft yma, gadawyd swyddogion yn poeni y gallai eu hiechyd ddioddef o ganlyniad i ymddygiad gwarthus y troseddwr. Ddylai neb wneud i rywun deimlo fel hyn wrth gyflawni eu gwaith.”