“Roedd yna un pwynt lle’r oedd o’n teimlo fel bod o byth yn mynd i gael ei gwblhau…”

 Wedi pedair blynedd yn cydweithio gyda llond llaw o gynhyrchwyr i geisio darganfod eu steil newydd, rhyddhaodd WRKHOUSE eu EP cyntaf, Out of the Blue, yn gynharach eleni.

Ac er bod enw’r band yn newydd a’r caneuon yn wych, mi fydd yr aelodau yn adnabyddus i ffans y Sîn Roc Gymraeg.

Cyn trawsnewid i WRKHOUSE yn 2022, roedd Lewys Meredydd, Gethin Elis, Iestyn Jones ac Ioan Bryn yn perfformio dan yr enw Lewys.

Ac fe wnaethon nhw recordio sawl bangar indi-dawns-ffynci gan gynnwys ‘Dan Y Tonnau’, ‘Yn Fy Mhen’, a ‘Gwres’.

Daeth yr awch cerddorol yn naturiol i’r aelodau fu yn perfformio mewn eisteddfodau ers yn ifanc, ac mae’r pedwar bellach wedi gorffen astudio cerddoriaeth yn y brifysgol.

Pan nad yw’n brysur yn perfformio a chreu caneuon, mae Lewys Meredydd, prif leisydd WRKHOUSE, yn gweithio yn llawrydd i Beacons Cymru yn rhedeg gweithdai prosiectau creadigol neu’n ffilmio ac yn creu graffics. Cychwynnodd gyfansoddi caneuon tra’n y chweched dosbaerth yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth. Roedd y band roc Foals o Rydychen yn ysbrydoliaeth gref arno ar y pryd. Maen nhw yn fwyaf adnabyddus am y monster-hit indi-dawns ‘My Number’ a’r rocar ‘Inhaler’.

Ymuno â label Yws Gwynedd, Recordiau Côsh oedd y bennod gyntaf yn ei yrfa roc, yn ôl Lewys.

“Fe wnaeth hwnna gychwyn allan fel prosiect unigol ac yn raddol iawn fe wnaeth yr aelodau eraill ymuno. Yn 2019 dyma ni gyd yn penderfynu dechrau sgwennu efo’n gilydd a gorffen yr albwm i ffwrdd.”

Rhyddhaodd y band Lewys eu halbwm Rhywbryd yn Rhywle ychydig ddyddiau cyn y cyfnod clo gwreiddiol nôl yn 2020, ond yn amlwg fe gafodd hynny effaith fawr ar y cynlluniau oedd ar y gweill. Yn sgíl y cyfnod clo, roedd rhaid i’r band gynnal sioe fyw rithiol i hyrwyddo eu casgliad cyntaf o ganeuon newydd yn dilyn misoedd o waith caled yn ei gwblhau. Ar Rhywbryd yn Rhywle mae’r caneuon adnabyddus ‘Gwres’ ac ‘Yn Fy Mhen’.

Yn ôl Lewys, roedd y cyfnod clo yn cynnig amser i’r pedwar feddwl am eu dyfodol fel band.

“Roedd Rhywbryd yn Rhywle yn big hit i ni o ran cael gigs lansio a chwarae mewn gwyliau Cymraeg yn yr haf ac yn amlwg roedd hynny i gyd yn gorfod stopio [oherwydd y cyfnodau clo]. Gafo ni lot o amser yn y cyfamser i feddwl am be oedden ni eisio fel band, ac wrth gwrs doedd yr enw Lewys o reidrwydd ddim yn cynrychioli’r pedwar ohona ni bellach.”

Canu’n Gymraeg a Saesneg

Yn naturiol felly, roedd y pedwar eisiau cychwyn rhywbeth o’r newydd ac yn ôl Lewys Meredydd, doedd dim pwysau arnyn nhw i ysgrifennu caneuon Cymraeg. Mae’r rhyddid felly yn caniatáu’r band i gyfansoddi’n ddwyieithog gan allu cadw eu hochr Gymraeg o’u hunaniaeth. Dyma ddechrau WRKHOUSE fel band dwyieithog alt-pop.

“Dechreuon ni ar sgwennu stwff newydd, ddim lot o pressure arna ni a doedden ni ddim eisiau’r pwysau o ysgrifennu yn Gymraeg,” eglura’r canwr.

“Ac os oedd o’n digwydd, roedd o’n digwydd, math o beth. Dyna ydi fy marn i am greu unrhyw fath o gerddoriaeth, mae’n rili anodd gorfodi gwneud rhywbeth mewn un iaith benodol.”

Cerddoriaeth wahanol

Er eu bod nhw’n dal i berfformio hen ganeuon y band Lewys fel WRKHOUSE, dywed Lewys fod y gerddoriaeth newydd yn sicr yn wahanol.

“Rydan ni a lot o’n ffrindiau ni’n gallu dweud bod yna split amlwg yn y gerddoriaeth. Dw i’n meddwl bo’ ni gyd wedi tyfu fyny dipyn bach, wedi lledaenu beth rydan ni yn ei wrando arno, ac felly wedi ffeindio ein personoliaeth ni fel band. Roedd o’n bwysig iawn efo’r EP yma fod pob cân yn llifo i mewn gyda’i gilydd.”

Nid ar chwarae bach y daeth Out of the Blue i fodolaeth. Rhwng dechrau mynd ati i gyfansoddi’r EP bedair blynedd yn ôl, a’i rhyddhau yn gynharach eleni, mae’r pedwar aelod wedi bod yn astudio a graddio o’r brifysgol – rhywbeth sydd wedi bod yn ddylanwad mawr ar eu gwaith yn ôl Lewys.

“Cathartic” yw’r gair mae Lewys yn ei ddefnyddio i ddisgrifio Out of the Blue, ac mae pwyslais mawr ar adael fynd o hen straeon a cheisio symud ymlaen. Gyda’r EP o’r diwedd wedi gweld golau dydd, dywed Lewys eu bod nhw fel band rŵan yn ceisio symud ymlaen o’r cyfnod hwnnw o geisio cael y gerddoriaeth at ei gilydd.

“Rydan ni rŵan yn trio symud ymlaen o’r adeg yna. Rŵan bod o allan, grêt, mi fedrwn ni symud ymlaen a chreu rhywbeth newydd.

“Mae o dal yn rhyfedd fod yr EP actually allan a bod rhywbeth yn digwydd efo fo. Roedd yna un pwynt lle’r oedd o’n teimlo fel bod o byth yn mynd i gael ei gwblhau.”

Rocio Lloegr

Er y cyfnod hir o aros, mae WRKHOUSE yn mynd o nerth i nerth ac yn perfformio nid yn unig yma yng Nghymru, ond hefyd yn Lloegr. Dywed Lewys ei bod yn syndod faint o bobl sy’n anymwybodol o fodolaeth yr iaith Gymraeg draw dros y ffin, ac mae yna her hefyd wrth geisio denu dilynwyr y band Lewys at y stwff newydd.

“Mae’n sialens wrth gwrs i drosglwyddo ffans draw o hen gerddoriaeth, dw i’n meddwl bod ni wedi gwneud joban dda yn gwneud hynny. Ond roedden ni hefyd eisio cychwyn o’r cychwyn. Roedden ni eisio’r sialens yna a gweld beth allwn ni ei wneud dros y ffin i gael pobl i wrando ar y stwff.”

Er y newid dynamig yng ngwaith y band, roedd y pedwar yn awyddus iawn i aros yn agos i’r Sîn Roc Gymraeg. Maen nhw wedi chwarae fel WRKHOUSE ym Maes B ym Mhontypridd fis Awst, ac mewn sawl gig Gymraeg gyda chynulleidfaoedd Cymraeg, gyda’r bwriad o barhau i ysgrifennu’n ddwyieithog.

Disgwyl derbyn gwobr Triskel

Ar hyn o’r bryd, mae Lewys Meredydd a gweddill y band yn edrych ymlaen yn arw i dderbyn gwobr Triskel yn ystod seremoni’r Wobr Gerddoriaeth Gymraeg nos Fawrth nesaf (8 Hydref) yng Nghanolfan y Mileniwm. Mae WRKHOUSE, ynghyd ag ADJUA a VOYA, ar fin derbyn yr un wobr, a roddir yn flynyddol i helpu i ddatblygu gyrfaoedd cerddorol artistiaid newydd. Y llynedd fe wnaeth y rapwyr Dom&Lloyd a’r gantores Talulah ennill y wobr.

Dywed Lewys mai pleser fydd rhannu llwyfan gydag enwau sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth iddyn nhw fel band.

“Dw i eisio llongyfarch ADJUA a VOYA sydd wedi ennill y Triskel hefyd. Ed o VOYA sydd wedi cynhyrchu ein EP ni, felly mae’n gysylltiad reit ddoniol bod ni’n gallu rhannu’r wobr efo criw VOYA hefyd. Fydd hi’n noson wych ac rydan ni’n edrych ymlaen i gael bod yn rhan ohono.”

Yn ogystal â’r Wobr Gerddoriaeth Gymraeg, mae llawer ar y gweill i WRKHOUSE. Bydd y band yn chwarae ar lwyfan Cwrw yng Nghaerfyrddin, Gŵyl Sŵn a Beyond the Music yn yr wythnosau sydd i ddod, gyda cherddoriaeth newydd rownd y gornel hefyd.

GIGS WRKHOUSE

11 Hydref – Gŵyl Beyond the Music Festival, Manceinion

12 Hydref – hedleinio gig yn CWRW, Caerfyrddin

17-19 Hydref – Gwyl Sŵn, Caerdydd