Yn ei gyfrol gyntaf yn Gymraeg, mae Siôn Tomos Owen yn trafod gor-dwristiaeth, dyfodol y diwydiant dur ac arfau America…

Mae cartwnydd adnabyddus sydd wedi bod yn sgrifennu barddoniaeth Saesneg ers dros ddegawd yn dweud ei fod yn adnabod ei hun yn well yn ei gerddi Cymraeg.

Pethau Sy’n Digwydd yw cyfrol gyntaf y cartwnydd a’r cyflwynydd Siôn Tomos Owen o gerddi Cymraeg.