Portread o Dr Manon Ceridwen James

Mae ficer a bardd o’r gogledd wedi troi ei llaw at gomedi, ac yn mwynhau’r wefr o ddiddanu cynulleidfa.

O ddydd i ddydd, mae’r Parchedig Ddoctor Manon Ceridwen James yn hyfforddi pobol sy’n ymuno â’r weinidogaeth yng Nghymru.

Ond yn ddiweddar, mae’r ficer a gafodd ei magu yn Nefyn ym Mhen Llŷn a bellach yn byw yn Abergele, wedi cyfnewid y pulpud am lwyfan stand-yp.