Mae modd cysylltu blodfresych â Chymru mewn sawl ffordd nodedig. Mae blodfresych yn gnwd poblogaidd yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd o dywydd oerach a llaith, mewn tymereddau rhwng 60°F a 70°F (15°C i 21°C). Medi yw’r amser pan fydd blodfresych yn cael eu cynaeafu, sy’n ei wneud yn gyfnod addas i ddathlu’r llysieuyn hwn, sy’n gnwd pwysig yng Nghymru.

Mae bwyd Cymreig yn aml yn cynnwys blodfresych. Mae modd ei ddefnyddio mewn prydau traddodiadol neu ryseitiau modern, gan gynnwys cawl, cauliflower cheese, Welsh Rarebit gyda Cauliflower cheese. Caiff blodfresych ei gysylltu â hunaniaeth ddiwylliannol ehangach Cymru yn aml, gan gynrychioli’r dreftadaeth amaethyddol gyfoethog a phwysigrwydd ffermio yng nghymunedau Cymru. Mae ymchwil amaethyddol neu raglenni bridio ar y gweill yng Nghymru eisoes, gyda’r nod o wella mathau o flodfresych, gan gyfrannu at addasrwydd a chynaliadwyedd y llysieuyn mewn hinsawdd sy’n newid.

Cafodd blodfresych eu cyflwyno i wledydd Prydain am y tro cyntaf yn yr unfed ganrif ar bymtheg, gyda’u hamaethu yn ymledu ledled y wlad, gan gynnwys Cymru, dros y canrifoedd dilynol. Mae cofnodion penodol ynghylch pryd y cafodd blodfresych eu tyfu am y tro cyntaf yng Nghymru yn gyfyngedig a phrin. Ond, yn gyffredinol, daeth yn boblogaidd yng ngerddi a ffermydd Cymru erbyn y ddeunawfed ganrif, wrth i arferion amaethyddol esblygu ac wrth i’r llysieuyn ennill ffafr ymhlith dietau lleol. Mae’r addasiad o flodfresych yng Nghymru yn adlewyrchu’r tueddiadau ehangach mewn tyfu llysiau yn ystod y cyfnod hwnnw, wrth i’r Cymry ddechrau cofleidio amrywiaeth o gnydau oedd yn addas ar gyfer eu hinsawdd a chyflwr eu pridd.

Y math mwyaf cyffredin o flodfresych yng Nghymru yw blodfresych gwyn, gaiff ei alw’n “flodfresych” yn aml iawn. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mathau lliwgar fel blodfresych porffor ac oren hefyd wedi ennill poblogrwydd ymhlith garddwyr a defnyddwyr.


Cynhwysion

Blodfresych

Garlleg

Olew olewydd

Nionyn

Caws

Stoc llysiau

Pupur ac halen

Bara a menyn (dewisol)

Paratoi

Torrwch bump ‘shallot’ yn fân a’u rhoi o’r neilltu.

Torrwch dop bwlb garlleg a’i lapio mewn ffoil.

Torrwch y blodfresych yn flodigion a’u rhoi mewn sosban i ferwi.

Coginio

Wedi i’r blodfresych ferwi, rhowch o yn y popty gydag olew olewydd drosto i rostio am tua 40 munud, ynghyd â’r garlleg mewn ffoil.

Coginiwch y nionod gan eu ffrio yn ysgafn.

Munud y mae’r blodfresych a’r garlleg wedi’u rhostio, rhowch y cyfan – ynghyd â’r nionod – mewn cymysgydd.

Ychwanegwch stoc llysiau, pupur a halen.

Cymysgwch y cyfan.

I’w wneud hyd yn oed yn fwy blasus, ychwanegwch gaws a nionyn gwyrdd ato.

Caws ‘Cheddar’ cryf yw fy newis i. Does dim i’w wneud nawr ond mwynhau’r bowlen hon o hapusrwydd.