Fe fydd gwrandawiad yn ystyried addasrwydd i ymarfer gweithiwr gofal cartref o Lanelli, yn dilyn honiadau o gamymddwyn difrifol yn ei erbyn.

Mae honiadau bod Leighton John Jones o Lanelli wedi ymddwyn mewn modd rhywiol amhriodol tuag at gydweithwyr drwy anfon negeseuon amhriodol at gydweithwyr dros y cyfryngau cymdeithasol.

Mae hefyd wedi’i amau o wneud sylwadau amhriodol iddyn nhw am eu hymddangosiad, ac o ail-greu profiad rhywiol o flaen cydweithiwr arall.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o ddweud celwydd wrth ei gyflogwr am anfon llun sarhaus neu anweddus at gydweithiwr.

Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal dros Zoom am 9:00yb ddydd Llun (Medi 30) ac yn parhau ddydd Mawrth (Hydref 1).