Mae adroddiad Ewropeaidd yn argymell y dylai ysgolion ar Ynys Manaw ddysgu mwy o wersi drwy gyfrwng Gaeleg Ynys Manaw.

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan Gyngor Ewrop, y corff sy’n cynnal hawliau dynol, democratiaeth a rheol y gyfraith yn Ewrop.

Mae arbenigwyr yn annog yr awdurdodau ar Ynys Manaw i ganolbwyntio’u hymdrechion ar blant oed cyn ysgol ac ysgol gynradd, ac i sefydlu cwrs hyfforddi athrawon er mwyn sicrhau bod digon o athrawon ar gael yn y tymor hir.

Mae’r adroddiad yn nodi bod “fframwaith da” yn ei le i warchod ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol, ond fod gor-ddibyniaeth ar wirfoddolwyr yn achos nifer o ieithoedd.

Roedd yr adroddiad hefyd yn archwilio sefyllfa’r Gymraeg, y Gernyweg, Gaeleg yr Alban, Sgots a Gaeleg Iwerddon.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Ewrop, mae’r ffaith fod maes dysgu ieithoedd yn nwylo awdurdodau lleol yn arwain at “sefyllfa anwastad” o un genedl i’r llall, ac mae prinder athrawon ac anawsterau recriwtio’n broblem ym mhob cenedl.

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell cynyddu’r arian sydd ar gael i ddarlledu mewn ieithoedd lleiafrifol.

Sefyllfa ieithyddol Ynys Manaw

Yn unol â pholisi’r llywodraeth, cafodd yr iaith Fanaweg ei chyflwyno mewn ysgolion yn 1992, ond fel pwnc dewisol i blant wyth oed a hŷn.

Nododd Deddf Addysg 2001 y dylid cynnig gwersi iaith, diwylliant a hanes Gaeleg Ynys Manaw yn rhan o’r cwricwlwm.

Un ysgol Fanaweg sydd ar yr ynys ar hyn o bryd.