Mae Sue Tranka, prif nyrs Cymru, wedi plannu coeden gyda’r nod o ddechrau’r broses o sefydlu gardd les newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd yr ardd yn rhan o safle Canolfan Addysg Gofal Iechyd y Brifysgol ar riw Penglais, a’r gobaith yw y bydd yr ardd yn cynnwys perllan ac ardaloedd i dyfu llysiau a blodau.

Dim ond ers 2022 ddechreuodd Prifysgol Aberystwyth gynnig graddau nyrsio, wedi i Addysg a Gwella Iechyd Cymru ddyfarnu cytundeb i’r coleg i gynnig cyrsiau gradd i hyfforddi nyrsys oedolion ac iechyd meddwl.

Ers hynny, mae’r staff a’r myfyrwyr wedi bod yn cynnal teithiau cerdded lles ac yn trafod datblygiad i greu gofod ar y safle i’r rhai sydd yn ymweld â’r Ganolfan.

Prosiect garddio Gwyrdd-Ni

Mae’r ‘Priosect Garddio Gwyrdd-Ni’ yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â chymuned Aberystwyth a chyrff lleol eraill, gyda chefnogaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Cadwch Cymru’n Daclus a’r cwmni eiddo iechyd Assura.

“Rwy’n falch iawn o helpu i nodi man cychwyn yr ardd les hon, a fydd yn creu amgylchedd heddychlon ac anogol i staff, myfyrwyr nyrsio a’r gymuned gyfan,” meddai Sue Tranka.

“Mae iechyd a lles yn mynd y tu hwnt i leoliadau clinigol, a bydd yr ardd hon yn rhoi cyfle ymarferol i fyfyrwyr archwilio sut y gall mannau gwyrdd chwarae rhan allweddol mewn gofal cyfannol, gan feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r berthynas rhwng iechyd a’r amgylchedd.”

Ychwanega Amanda Jones, Prif Arweinydd Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth, ei bod yn “wych gweld bod gwaith y myfyrwyr a’r gymuned yn dechrau dwyn ffrwyth”.

“Mae ardaloedd gwyrdd fel hyn mor bwysig i les y myfyrwyr, staff a’r gymuned yn ehangach,” meddai.

“Ers i ni agor ein drysau llai na dwy flynedd yn ôl, mae staff a myfyrwyr wedi elwa ar y teithiau cerdded lles sydd wedi’u trefnu.

“Mae ychwanegu ardal werdd arall i’r campws yn mynd i fod o fudd iddyn nhw a phawb sy’n ymweld â’r Ganolfan.

“Bydd myfyrwyr yn gallu cyfrannu at yr ardd drwy blannu a gofal amdani eu hunain.

“Bydd hefyd yn adeiladu ar y ddealltwriaeth o presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd sydd wedi’i ddatblygu yma yn y Brifysgol.”

Yn ôl Karen Nolan, Pennaeth Effaith Gymdeithasol Assura, maen nhw’n “wirioneddol ymroddedig i alluogi’r tir o amgylch ein hadeiladau ni i fod o fudd i iechyd a lles y gymuned”.

“Mae myfyrwyr a staff y Brifysgol wedi gwneud dechrau ardderchog i’r prosiect gwych hwn, ac alla i ddim aros i weld sut y bydd e’n datblygu dros y blynyddoedd i ddod,” meddai.