Mae cwest i farwolaeth bachgen 12 oed wedi clywed iddo gael ei ganfod yn farw ar lawr ei ystafell wely gan aelod o’i deulu.

Roedd Marc Aguilar yn ddisgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Bro Edern yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’w gartref yn Llaneirwg brynhawn dydd Sadwrn, Medi 14.

Dywed adroddiad gan batholegydd fod angen ymchwiliad pellach cyn cadarnhau sut y bu farw’r bachgen.

Ond dywedodd y crwner fod y farwolaeth yn un annaturiol a bod angen cynnal cwest, sydd bellach wedi cael ei ohirio er mwyn cynnal yr ymchwiliad.

Dywed yr heddlu nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus ynghylch marwolaeth y bachgen oedd, yn ôl Ysgol Gyfun Bro Edern, yn “ddisgybl poblogaidd a hoffus oedd yn serennu ym myd y campau”.

“Roedd ganddo lawer o ffrindiau ym Mro Edern a bydd colled fawr ar ei ôl,” medden nhw.