Mae Llywodraeth Cymru’n annog pobol i gymryd brechiadau i ddiogelu eu hunain rhag salwch dros y gaeaf a chefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Am y tro cyntaf, mae menywod beichiog yn cael cynnig y brechlyn RSV i helpu i amddiffyn babanod newydd-anedig rhag y feirws.

Gall y feirws arwain at gymhlethdodau difrifol, yn enwedig yn y gaeaf.

Mae’r brechlyn RSV hefyd yn cael ei gynnal i bobol wrth iddyn nhw droi’n 75 oed, fel rhan o raglen gydol y flwyddyn gafodd ei lansio’n gynharach y mis hwn.

Mae brechiadau ffliw i blant eisoes ar y gweill mewn ysgolion hefyd, a bydd rhaglen frechu ffliw a Covid-19 i oedolion yn dechrau ar Hydref 1.

‘Amddiffyn ein hunain’

Dywed Jeremy Miles, Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, y gall pawb gymryd camau i amddiffyn eu hunain ac eraill wrth i’r gwasanaethau iechyd baratoi at y gaeaf.

“Bydd manteisio ar y cynnig brechu os ydych yn gymwys i gael brechlyn ffliw, brechlyn atgyfnerthu Covid-19, neu’r brechlyn RSV newydd yn helpu i’ch diogelu rhag salwch cyffredin,” meddai.

“Mae fferyllfeydd yn darparu cyngor a thriniaeth arbenigol ar gyfer ystod eang o gyflyrau cyffredin, o beswch ac annwyd i broblemau stumog a gallant helpu i leddfu’r pwysau ar feddygon teulu a gwasanaethau eraill y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i sicrhau eu bod yno i’r rhai sydd angen y gofal a’r cymorth fwyaf.”

Heddiw (dydd Mawrth, Medi 24), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Fframwaith ar gyfer Feirysau Anadlol y Gaeaf i helpu gwasanaethau iechyd a gofal i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag salwch.

Mae byrddau iechyd ledled Cymru hefyd wedi cael canllawiau i sicrhau bod mesurau atal heintiau mewn lle i gadw pobol yn ddiogel ac i gynnal effeithlonrwydd gwasanaethau iechyd drwy gydol y gaeaf.