Y Tywysog Charles
Mae Tywysog Cymru wedi datgelu bod ganddo achau ‘fampiraidd’ mewn rhaglen ddogfen newydd sy’n edrych ar gysylltiadau teuluol etifedd nesaf coron Lloegr â Transylvania.

Yn y rhaglen, fe fydd y Tywysog yn esbonio’r cysylltiad teuluol rhyngddo ef a’r Arglwydd Vlad o Romania, y dyn a ysbrydolodd stori y fampir Count Dracula.

Roedd yr Arglwydd Vlad ei hun yn cael ei adnabod fel ‘Dracula’ yn ei gyfnod, sy’n golygu mab y ddraig.

Roedd yn ddrwg-enwog ar draws Ewrop oherwydd ei greulondeb wrth ladd ei elynion, drwy eu trywanu â ffyn.

Yn y rhaglen, Wild Carpathia, bydd y Tywysog yn tywys y cyflwynydd Charlie Ottley o gwmpas y cartref y mae e newydd ei brynu yn y wlad, ac yn trafod ei angerdd tuag at yr “ecosystem naturiol” yng nghoedwig eang Transylvania.

Mae’r Tywysog wedi disgrifio’r ardal o gwmpas Mynyddoedd y Carpathian yn Transylvania fel “y cornel olaf o Ewrop lle allwch chi weld cynaladwyedd gwirioneddol a gwydnwch llwyr, a chynnal ecosystemau cyfan er budd dynoliaeth ond hefyd natur”.

“Y peth hyfryd ynglŷn â Transylvania i fi yw’r cymysgedd o ecosystemau naturiol, y coedwigoedd, a’r ardaloedd amgylcheddol ynghyd â’r systemau dynol diwylliannol,” meddai’r Tywysog.

“Mae natur ddiamser y lle yn rhyfeddol – mae e bron fel petai’n codi o rai o’r straeon hynny fydd un yn eu darllen pan yn ifanc. Mae pobol yn awchu am y profiad hwn o berthyn, a hunaniaeth, ac ystyr.”

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar y Travel Channel nos Sul.