Mae Radio Cymru wedi colli bron i 20% o’u gwrandawyr dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau gwrando diweddaraf y diwydiant darlledu.
Yn ôl canlyniadau arolwg diweddaraf cwmni RAJAR, mae 34,000 yn llai wedi bod yn gwrando ar Radio Cymru yn ystod misoedd Gorffennaf, Awst a Medi eleni, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Dim ond 138,000 o bobol sydd wedi bod yn gwrando ar orsaf Radio Cymru yn wythnosol, yn y tri mis at ddiwedd Medi 2011, o’i gymharu âr 172,000 oedd yn gwrando’n wythnosol yn ystod yr un cyfnod yn 2010.
Dywedodd llefarydd y BBC eu bod yn derbyn fod y ffigyrau yn is, ond roedden nhw’n pwysleisio fod canlyniadau RAJAR hefyd yn awgrymu bod gwrandawyr yn gwrando am gyfnodau hirach nag o’r blaen.
“Yn ôl y ffigyrau gwrandawyr gorsafoedd radio diweddara’, mae 138 o filoedd o bobol yn gwrando ar Radio Cymru bob wythnos – wyth mil yn llai na thros y tri mis cynt,” meddai’r llefarydd.
“Ar gyfartaledd, dywed cwmni RAJAR bod gwrandawyr yn gwrando ar yr orsaf am ychydig dros un awr ar ddeg yr wythnos – hanner awr yn fwy nag yn y tri mis cynt.”
Y ffigyrau
Mae’r ffigyrau wedi gostwng yn raddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda nifer y gwrandawyr eisoes wedi disgyn i 153,000 erbyn y tri mis i Ragfyr 2010 – cwymp o 19,000 – cyn iddyn nhw ddisgyn eto i 144,000 erbyn mis Mawrth 2011.
Cafwyd cynnydd o 2,000, i 146,000 yn y tri mis i Fehefin eleni, ond mae’r ffigyrau wedi disgyn 8,000 arall yn ystod y tri mis i Fedi eleni.
Ond roedd canlyniadau fis Medi 2010 yn rai gweddol galonogol i’r orsaf radio genedlaethol, gyda 172,000 yn gwrando’n wythnosol ar Radio Cymru yn y cyfnod hynny – cynnydd o 50,000 o wrandawyr ar yr un cyfnod yn 2009.