Fe fydd cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn y llys heddiw (dydd Llun, Mawrth 9) i wynebu cyhuddiadau o ymosod yn rhywiol, gan gynnwys un cyhuddiad o geisio treisio dynes.

Mae Alex Salmond, 65 oed, yn wynebu 14 cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn 10 dynes.

Mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae’r cyhuddiadau’n cynnwys un ymgais i dreisio, 11 ymosodiad rhyw a dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus.

Bydd yr achos yn dechrau yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin ac mae disgwyl iddo barhau am bedair wythnos.

Mae’r cyhuddiadau yn dyddiol nol rhwng mis Mehefin 29, 2008 a mis Tachwedd 11, 2014, gydag un o’r ymosodiadau honedig yn digwydd yn ystod mis refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Roedd Alex Salmond yn Brif Weinidog yr Alban rhwng 2007 a 2014.