Fe fydd meddygfeydd teulu yng Nghymru yn cael pecynnau diogelwch i’w hamddiffyn wrth iddyn nhw drin pobl sy’n cael eu hamau o fod a’r Coronafeirws, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, heddiw (dydd Llun, Mawrth 9).
Fe fydd y pecynnau yn cynnwys mygydau wyneb, menyg a ffedogau a byddan nhw’n cael eu dosbarthu i’r 640 o feddygfeydd teulu yng Nghymru yr wythnos hon.
Mae’r Gweinidog Iechyd hefyd wedi caniatáu i Gyfarpar Diogelu Personol gael eu rhyddhau o gyflenwadau i’w defnyddio gan staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd (GIG) a’r gwasanaethau cymdeithasol.
Daw’r cyhoeddiad wrth i nifer yr achosion yng Nghymru godi i 4 yn dilyn dau achos newydd yn Sir Benfro dros y penwythnos. Mae’n debyg bod y ddau yn aelodau o’r un teulu ac wedi dychwelyd o ogledd yr Eidal yn ddiweddar.
“Mesurau cadarn”
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd: “Mae’r pecynnau hyn yn rhan o fesurau rheoli heintiau cadarn sydd ar waith gennym, ac rwyf am sicrhau pobl ein bod yn gweithio’n agos gyda GIG Cymru a’r gwasanaethau cymdeithasol ledled y wlad i roi ein hymateb arfaethedig ar waith.
“Mae’n bwysig bod gan staff gofal meddygol a chymdeithasol rheng flaen y cyfarpar sydd eu hangen arnynt i’w cadw’n ddiogel tra byddant yn helpu pobl yr amheuir bod ganddynt Coronafeirws.”
“Mae’r mygydau wyneb, y menyg a’r ffedogau yn rhan o gyflenwad sydd gennym yn ein cynlluniau wrth gefn os bydd eu hangen i gefnogi ein GIG a’n gwasanaethau cymdeithasol.