Mae llwyfan digidol sy’n cynnwys 75 sianel o gynnwys diwylliannol o Gymru’n cael ei lansio heddiw (dydd Llun, Mawrth 9).
Bydd y sianelau ar gymuned ddigidol newydd AM yn cynnwys deunydd ffilm, fideo, cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth.
Mae AM yn cael ei ddisgrifio fel “platfform agored, democrataidd, diwylliannol gyda’r nôd o adlewyrchu ecosystem artistig gwlad gyfan” sydd “â phwyslais ar ddarganfod, cysylltu a rhannu tra’n rhoi llwyfan i leisiau, o bosibl anadnabyddus, newydd”, gan greu “byd newydd i genhedlaeth newydd o grëwyr a defnyddwyr”.
Bydd y platfform yn cynnwys sianelau, gwefan ac ap mewn pump adran wahanol – gwrando, gwylio, geiriau, gwyliau a gigs.
Mae wedi cael ei greu a’i ddatblygu gan PYST fel rhan o bartneriaeth rhwng Tramshed Tech, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Sianelau’n mynd yn fyw
Un o’r sianelau cyntaf i fynd yn fyw heddiw (dydd Llun, Mawrth 9) yw Iris Prize Festival, yr ŵyl ffilm flynyddol yng Nghaerdydd sy’n dathlu bywyd LHDT+.
Ac ymhlith y deunydd cyntaf ar y platfform ar ddydd Gwener (Mawrth 13) fydd ffilm newydd y Manic Street Preachers a’r cyfarwyddwr Kieran Evans, Be Pure, Be Vigilant, Behave.
“Rydym wrth ein boddau y bydd ein ffilm… wedi’i saethu a’i gyfarwyddo gan Kieran Evans ynghyd â chymysgu sain grymus Dave Eringa, yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar y wê ar AM: platfform blaengar ac allweddol i ddathlu diwylliant Cymreig,” meddai James Dean Bradfield, prif leisydd y band.
“Mwynhewch y ffilm, mwynhewch AM.”
Ymateb i’r platfform newydd
Artist arall sy’n gweld gwerth yn y prosiect yw Efa Lois, artist o’r canolbarth.
“Mae AM yn gyfrwng newydd a blaengar i rannu a darganfod gwaith creadigol a chyffrous o Gymru, a dw i’n hapus iawn i fod yn rhan o’r gymuned,” meddai.
Yn ôl Helgard Krause, prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, bydd AM yn gartref i drysorfa lenyddol hen a newydd Cymru.
“Mae’r platfform celfyddydol newydd hwn yn ddatblygiad cyffrous, ac edrychwn ymlaen i gydweithio yn y dyfodol wrth i ni ddathlu a hyrwyddo ystod eang y celfyddydau yng Nghymru,” meddai.
“Meddyliau creadigol”
Un arall sy’n croesawu’r platfform yw’r actor Rhys Ifans, sy’n dweud ei bod yn “wych gweld platfform fel AM yn rhoi gofod amgen i grëwyr Cymru ymgynnull, rhannu a chydweithio”.
Ac yn ôl yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, mae Cymru’n “genedl o storïwyr”.
“Cafodd ein meddyliau creadigol eu hogi drwy rannu straeon o’r naill genhedlaeth i’r llall – mewn geiriau, delweddau a chân.
“Heddiw, efallai bod y dechnoleg wedi newid ond yr un yw’r nod: defnyddio ein sgiliau creadigol er mwyn ymwneud â phobl, rhannu syniadau, difyrru a hysbysu – bydd AM yn dod yn llwyfan i dalent creadigol Cymru ac rydym yn hynod o falch o allu cefnogi ei ddatblygiad.”