Mae Adam Price yn dweud ei fod e’n “falch o alw fy hun yn ffeminydd” ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.

Daw ei sylwadau wrth iddo ddweud nad yw Cymru eto’n “wlad gydradd, ond mi fydd hi”.

Mae’n dweud bod y diwrnod byd-eang yn gyfle i “ddathlu cynnydd merched tuag at gydraddoldeb o amgylch y byd ac i dynnu sylw at yr anghydraddoldeb sy’n bod o hyd rhwng dynion a merched”.

Mae’n tynnu sylw at y bwlch cyflog o £1.90 yr awr, o’i gymharu â £1.65 y llynedd, a bod menywod yn dal i gael eu camdrin ac yn wynebu toriadau anghymesur, tra bod merched WASPI yn brwydro am bensiwn sy’n ddyledus iddyn nhw.

“Mae merched ag anableddau, merched o liw, merched o ffydd neu ferched di-waith hefyd yn wynebu gwahaniaethu dwbwl,” meddai.

“Na, dydy Cymru ddim yn wlad gydradd.

“Ond mi allai hi fod.”

Y dyfodol

Mae Adam Price hefyd yn tynnu sylw at ymchwil gan fudiad Chwarae Teg sy’n dangos y byddai cydraddoldeb llwyr yng Nghymru’n golygu hwb o £13.6bn i Werth Ychwanegol Crynswth y genedl erbyn 2028.

“Allwn ni ddim fforddio tanbrisio sgiliau a photensial merched ac mae cydraddoldeb o ran rhyw yn allweddol er mwyn i economïau a chymunedau fod yn llewyrchus,” meddai.

Mae’n dweud ei fod e am weld Cymru sy’n cynnig y gofal plant gorau, sy’n cau’r bwlch cyflog ac sy’n ymdrin â chamdrin merched.

Mae hefyd yn galw am “fusnesau cytbwys, llywodraeth gytbwys, sylw cytbwys gan y cyfryngau, cydbwysedd rhyw mewn cyflogaeth, cydbwysedd rhyw o ran cyfoeth, cydbwysedd rhyw mewn chwaraeon”.

“Allwn ni ddim eistedd yn ôl ac aros i gydraddoldeb ein cyrraedd ni, rhaid i ni wneud iddo ddigwydd.”

‘Hen Wlad Fy Mamau’

Mae’n tynnu sylw at gyfraniad nifer o ferched blaenllaw i fywyd yng Nghymru, gan gynnwys Eileen Beasley, Betty Campbell a Jan Morris, yn ogystal â “fy Mam fy hun”.

“Dw i’n falch o alw fy hun yn ffeminydd a byddaf yn ymuno â miliynau o bobol eraill o amgylch y byd i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched heddiw,” meddai wedyn.

“Oherwydd lle mae merched yn ennill, rydym oll yn ennill.

“Lle mae merched yn yr ystafell yn gwneud penderfyniadau, mae pawb ar eu hennill.

“Dydy Cymru ddim eto’n wlad gydradd, ond mi fydd hi.”