Mae pryderon fod dau o bobol wedi cael eu trywanu i farwolaeth yn Sussex.
Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n ymchwilio i “ddigwyddiad sylweddol” yn ardal Crawley Down.
Dywed cymydog ar y cyfryngau cymdeithasol fod pobol wedi cael eu “lladd”, tra bod adroddiadau hefyd fod dau o bobol wedi’u lladd ac un wedi’i anafu.
Mae lluniau o’r eiddo’n dangos lliain dros yr hyn mae pobol yn dweud yw cyrff dau o bobol.